Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
CYPE(4)-29-14 – Papur 2
Adolygiad o addysg yng Nghymru gan y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Improving Schools in
Wales: An OECD Perspective and Qualified for Life – Cynllun
Gwella Addysg ar gyfer Cymru
Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Yn 2011, cychwynnwyd rhaglen ddiwygio uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau yn system addysg Cymru. Er mwyn adeiladu ar y sylfaen eang o dystiolaeth a ddefnyddid eisoes gan yr Adran Addysg a Sgiliau, comisiynwyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i gynnal adolygiad o’n system addysg, gan gymryd i ystyriaeth hefyd ganlyniadau Cymru yn PISA 2012, a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2013.
Roedd adroddiad yr OECD, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2014, yn canfod cryfderau yn ogystal â gwendidau yn system addysg Cymru. Y prif gryfderau a nodwyd oedd y canlynol:
· system o ysgolion cyfun a roddai bwyslais ar degwch a chynhwysiant. Roedd perfformiad myfyriwr yn dibynnu llai ar ei ysgol ac ar ei gefndir economaidd-gymdeithasol, o gymharu â chyfartaledd yr OECD;
· ysgolion a oedd yn darparu amgylcheddau dysgu cadarnhaol, gyda pherthynas dda rhwng myfyrwyr ac athrawon, ac ystafelloedd dosbarth a oedd yn hwyluso dysgu;
· argaeledd data asesu a gwerthuso ar wahanol lefelau o’r system, y gellid eu defnyddio i wella polisi ac ymarfer; ac
· cefnogaeth gref, ymhlith y proffesiwn a’r cyhoedd yn gyffredinol, i’r cyfeiriadau polisi a bennwyd o dan y diwygiadau cyfredol.
Roedd yr OECD hefyd yn nodi nifer o heriau, fel a ganlyn:
· yr angen i roi sylw i anghenion dysgu pob myfyriwr, gan fod OECD wedi canfod nifer uchel o berfformwyr gwael, nad oedd eu hysgolion yn llwyddo i ymateb i’w hanghenion dysgu. Ym marn OECD nid oedd y strategaethau ar gyfer dysgu gwahaniaethol ac asesu ffurfiannol wedi eu datblygu yn ddigonol;
· yr angen i ddatblygu ymhellach y polisïau recriwtio, datblygu proffesiynol a dilyniant gyrfaol ar gyfer athrawon, arweinwyr a holl weithlu’r ysgolion;
· diffyg cydlyniad yn y trefniadau gwerthuso ac asesu, a’r drafferth a gafwyd yng Nghymru i sicrhau cydbwysedd rhwng atebolrwydd a gwella; a’r
· drafferth a geid i ymdopi â chyflymder y diwygio yn y sector – tynnwyd sylw at yr angen am weledigaeth a chynllun gweithredu hirdymor, y gall yr holl randdeiliaid eu rhannu.
Ein bwriad o’r dechreuad oedd diweddaru’r cynllun Gwella Ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012. Mae Cymwys am Oes – Cynllun Gwella Addysg i Gymruyn pennu ein gweledigaeth a’n nod ar gyfer addysg hyd at 2020, ar sail 4 amcan strategol a gweithredoedd cysylltiedig, a fydd yn sicrhau y bydd ein hymgyrch i wella’n parhau. Mae’r cynllun yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud yn ystod y chwe blynedd nesaf, yn rhannol fel ymateb i’r feirniadaeth gan OECD, sef bod angen gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru.
Mae’r ddogfen wedi ei strwythuro o amgylch gweledigaeth eglur y bydd dysgwyr yng Nghymru yn mwynhau addysgu a dysgu a fydd yn eu hysbrydoli i lwyddo, o fewn cymuned addysg a fydd yn cydweithio ac yn dyheu i ragori ac i ddatblygu potensial pob plentyn a pherson ifanc. Seilir ein gweledigaeth ar un nod yn unig, sef bod pob plentyn a pherson ifanc gael budd o addysgu a dysgu rhagorol. Mae’r nod hwnnw yn ei dro yn seiliedig ar ein pedwar amcan strategol:
(i) gweithlu proffesiynol rhagorol, sydd â’i addysgeg gref yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio mewn gwirionedd;
(ii) cwricwlwm deniadol sy’n cysylltu â phlant a phobl ifanc, ac yn datblygu ynddynt y gallu i ddefnyddio’u gwybodaeth a’u sgiliau yn annibynnol;
(iii) cymwysterau, ar gyfer y bobl ifanc, sy’n hawlio parch yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn basbort credadwy i gyfleoedd dysgu pellach a chyflogaeth yn y dyfodol; a
(iv) arweinwyr addysg ar bob lefel a fydd yn cydweithio â’i gilydd o fewn system a fydd yn gwella’i hunan, yn darparu cymorth cilyddol ac yn cynnig her i wella’r safonau ym mhob ysgol.
Ein blaenoriaethau, o hyd, fydd gwella’r safonau llythrennedd a rhifedd a thorri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel. Ni fydd blaenoriaethau hyn yn cael eu glastwreiddio gan mai’r rhain sy’n cynnal ein hamcanion strategol.
Yn ogystal â datgan yn eglur ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer llwyddiant dysgwyr yng Nghymru, rydym yn pennu cynllun gweithredu eglur er mwyn gwireddu ein hamcanion, a gwella ein system addysg yn gyffredinol a pharhaol, a hynny yn unol ag amserlen benodedig.
Mae’n bwysig iawn gallu dangos ein bod yn symud ymlaen. O ganlyniad, mae’r cynllun Cymwys am Oes yn cynnwys yr uchelgais o gyrraedd sgoriau o 500 ar gyfer darllen , mathemateg a gwyddoniaeth ym mhrofion PISA 2021. Ar yr un pryd, byddwn yn lleihau’n sylweddol y ganran o’r dysgwyr sydd â’u cyrhaeddiad ar, neu islaw, lefel cymhwysedd 2 PISA. rhwng hyn a 2021, byddwn yn asesu ein cynnydd drwy fesur:
(i) gwelliannau yn safonau llythrennedd a rhifedd y dysgwyr, gan gynnwys sgiliau meddwl gradd uwch a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau;
(ii) gostyngiadau yn y bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cymheiriaid nad ydynt yn gymwys i gael prydau am ddim; a
(iii) y gwelliant mewn hyder yn y system addysg ymhlith rhieni/gofalwyr, cyflogwyr a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi “Cerdyn Adrodd Addysg Cymru” yn flynyddol, a fydd yn cynnwys ystod o ddangosyddion perfformiad, yn dystiolaeth o’r cynnydd gyferbyn â’r mesurau uchod a chyferbyn â’n hamcanion strategol.